15 Ond dyma Saul yn anfon y dynion yn ôl i chwilio am Dafydd. “Dewch â fe yma ar ei wely os oes rhaid, i mi gael ei ladd e.”
16 Pan aethon nhw yn ôl, dyma nhw'n dod o hyd i'r eilun-ddelw yn y gwely a'r blew gafr lle byddai'r pen.
17 Dyma Saul yn rhoi pryd o dafod i Michal, “Pam wnest ti fy nhwyllo i fel yma? Ti wedi gadael i'm gelyn i ddianc!” A dyma hi'n ei ateb, “Dwedodd e wrtho i ‘Well i ti helpu fi i ddianc neu gwna i dy ladd di!’”
18 Roedd Dafydd wedi rhedeg i ffwrdd a dianc at Samuel i Rama. Dwedodd wrth Samuel beth oedd Saul wedi bod yn ei wneud iddo. Yna dyma fe a Samuel yn mynd i aros gyda'r gymuned o broffwydi.
19 Ond dwedodd rhywun wrth Saul fod Dafydd gyda'r gymuned yn Rama.
20 Felly dyma Saul yn anfon ei weision yno i arestio Dafydd. Ond pan gyrhaeddon nhw dyma nhw'n gweld grŵp o broffwydi yn proffwydo, a Samuel yn eu harwain nhw. A dyma Ysbryd Duw yn dod ar weision Saul, nes iddyn nhw hefyd ddechrau proffwydo.
21 Pan glywodd Saul beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n anfon gweision eraill. Ond dyma'r rheiny hefyd yn dechrau proffwydo. Dyma Saul yn anfon trydydd criw, a dyma'r un peth yn digwydd iddyn nhw hefyd.