5 Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti'n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae'n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed – lladd Dafydd am ddim rheswm?”
6 Dyma Saul yn gwrando ar gyngor Jonathan, ac addo ar lw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, wna i ddim ei ladd e!”
7 Felly dyma Jonathan yn galw Dafydd a dweud wrtho beth ddigwyddodd. Aeth ag e at Saul, a cafodd Dafydd weithio iddo fel o'r blaen.
8 Roedd rhyfel unwaith eto, a dyma Dafydd yn mynd allan i ymladd y Philistiaid. Trechodd nhw'n llwyr nes iddyn nhw redeg i ffwrdd o'i flaen.
9 A dyma'r ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD yn dod ar Saul eto. Roedd yn eistedd yn ei dŷ a gwaywffon yn ei law, tra roedd Dafydd yn canu'r delyn.
10 A dyma Saul yn trïo trywanu Dafydd a'i hoelio i'r wal gyda'i waywffon. Ond dyma Dafydd yn llwyddo i'w hosgoi ac aeth y waywffon i'r wal, a rhedodd Dafydd i ffwrdd.Y noson honno
11 dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os gwnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.”