1 Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn:“Dw i mor falch o'r ARGLWYDD.Gallaf godi fy mhena chwerthin ar fy ngelynion,am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.
2 Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD.Does neb tebyg i ti.Does neb yn graig sy'n amddiffyn fel ein Duw ni.
3 Peidiwch brolio'ch hunaina siarad mor snobyddlyd,oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth,ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.
4 Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.