1 Dyma Hanna yn gweddïo fel hyn:“Dw i mor falch o'r ARGLWYDD.Gallaf godi fy mhena chwerthin ar fy ngelynion,am fy mod mor hapus dy fod wedi fy achub.
2 Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD.Does neb tebyg i ti.Does neb yn graig sy'n amddiffyn fel ein Duw ni.
3 Peidiwch brolio'ch hunaina siarad mor snobyddlyd,oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth,ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.
4 Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.
5 Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta,ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi.Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith,ond yr un sydd â llawer yn llewygu.