15 Roedd gwas yr offeiriad yn mynd atyn nhw cyn iddyn nhw hyd yn oed gael cyfle i losgi'r braster, a dweud wrth yr un oedd yn offrymu, “Rho beth o'r cig i'r offeiriad ei rostio. Does ganddo ddim eisiau cig wedi ei ferwi, dim ond cig ffres.”
16 Os oedd rhywun yn ateb, “Gad i'r braster gael ei losgi gynta, yna cei di gymryd beth bynnag wyt ti'n ei ffansïo,” byddai'r gwas yn dweud, “Na! rho fe i mi nawr. Os na wnei di, bydda i'n defnyddio grym.”
17 Roedd yr ARGLWYDD yn ystyried hyn yn bechod difrifol. Doedd y dynion ifanc yma'n dangos dim parch at beth oedd i fod yn rhodd i'r ARGLWYDD.
18 Roedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac yn gwisgo effod o liain main.
19 Roedd ei fam yn arfer gwneud mantell fach iddo bob blwyddyn, ac yn dod â hi iddo pan fyddai hi a'i gŵr yn dod i fyny i gyflwyno eu haberth.
20 Byddai Eli yn bendithio Elcana a'i wraig, a dweud, “Boed i'r ARGLWYDD roi plant i ti a Hanna yn lle yr un mae hi wedi ei fenthyg iddo.” Yna bydden nhw'n mynd yn ôl adre.
21 A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.