21 A dyma Duw yn gadael i Hanna gael mwy o blant. Cafodd dri o fechgyn a dwy ferch.Yn y cyfamser roedd y bachgen Samuel yn tyfu o flaen yr ARGLWYDD.
22 Roedd Eli wedi mynd yn hen iawn. Byddai'n clywed o hyd am bopeth roedd ei feibion yn ei wneud i bobl Israel (ac roedd e'n gwybod hefyd eu bod nhw'n cael rhyw gyda'r merched oedd yn gweini wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.)
23 Byddai'n dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi'n bihafio fel yma? Dw i'n clywed gan bawb am y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.
24 Rhaid i chi stopio, fechgyn. Dydy'r straeon sy'n mynd o gwmpas amdanoch chi ddim yn dda.
25 Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn person arall, gall droi at Dduw am help. Ond os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, pwy sy'n mynd i'w helpu?” Ond roedd meibion Eli yn gwrthod gwrando ar eu tad, achos roedd yr ARGLWYDD wedi penderfynu eu lladd nhw.
26 Roedd y bachgen ifanc Samuel yn tyfu ac yn plesio'r ARGLWYDD a phobl.
27 Daeth dyn oedd yn proffwydo at Eli a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Gwnes i ddangos fy hun yn glir i dy hynafiaid di yn yr Aifft pan oedden nhw'n gaethweision i'r Pharo.