3 Peidiwch brolio'ch hunaina siarad mor snobyddlyd,oherwydd mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n gwybod popeth,ac mae'n barnu popeth sy'n cael ei wneud.
4 Bydd grym milwrol y rhai cryfion yn cael ei dorri,ond bydd y rhai sy'n baglu yn cael nerth.
5 Bydd y rhai sydd ar ben eu digon yn gorfod gweithio i fwyta,ond bydd y rhai sy'n llwgu yn cael eu llenwi.Bydd y wraig sy'n methu cael plant yn cael saith,ond yr un sydd â llawer yn llewygu.
6 Yr ARGLWYDD sy'n lladd a rhoi bywyd.Fe sy'n gyrru rhai i'r bedd ac yn achub eraill oddi yno.
7 Yr ARGLWYDD sy'n gwneud rhai yn dlawd ac eraill yn gyfoethog;fe sy'n tynnu rhai i lawr ac yn codi eraill i fyny.
8 Mae e'n codi pobl dlawd o'r baw,a'r rhai sydd mewn angen o'r domen sbwrieli eistedd gyda'r bobl fawrar y sedd anrhydedd.Duw sy'n dal colofnau'r ddaear,a fe roddodd y byd yn ei le arnyn nhw.
9 Mae e'n gofalu am y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond bydd y rhai drwg yn darfod yn y tywyllwch,achos dydy pobl ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain.