33 Bydda i'n gadael un o dy deulu ar ôl i wasanaethu wrth fy allor, ond bydd hwnnw'n colli ei olwg ac yn torri ei galon. Bydd gweddill dy ddisgynyddion yn marw yn ddynion ifainc.
34 “‘A dyma'r arwydd i brofi i ti fod hyn yn wir: bydd dy ddau fab, Hoffni a Phineas, yn marw ar yr un diwrnod!
35 Wedyn bydda i'n dewis offeiriad sy'n ffyddlon i mi. Bydd e'n fy mhlesio i ac yn gwneud beth dw i eisiau. Bydda i'n rhoi llinach sefydlog iddo, a bydd e'n gwasanaethu'r un fydda i'n ei eneinio'n frenin am byth.
36 Bydd pwy bynnag fydd ar ôl o dy deulu di yn dod a plygu o'i flaen i ofyn am arian neu damaid i'w fwyta. Byddan nhw'n crefu am unrhyw fath o waith fel offeiriad, er mwyn cael rhywbeth i'w fwyta.’”