12 dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Dw i'n addo o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel: erbyn yr adeg yma'r diwrnod ar ôl fory bydda i wedi darganfod beth ydy agwedd dad atat ti. Os ydy ei agwedd e atat ti'n iach, bydda i'n anfon rhywun i adael i ti wybod.
13 Os ydy e am wneud drwg i ti, boed i Dduw ddial arna i os gwna i ddim gadael i ti wybod a dy helpu di i ddianc yn saff! Dw i'n gweddïo y bydd Duw gyda ti fel roedd e gyda dad.
14 Fel mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw,
15 paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear
16 a'i galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.”
17 A dyma Jonathan yn mynd ar ei lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
18 Meddai Jonathan, “Mae hi'n Ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw'n dy golli di.