14 Fel mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon, bydd dithau'n driw i mi tra bydda i byw. A hyd yn oed pan fydda i wedi marw,
15 paid troi dy gefn ar dy ymrwymiad i'm teulu i. A pan fydd yr ARGLWYDD wedi cael gwared â phob un o dy elynion di oddi ar wyneb y ddaear
16 a'i galw nhw i gyfri, paid gadael i rwyg godi rhyngddo i, Jonathan a theulu Dafydd.”
17 A dyma Jonathan yn mynd ar ei lw unwaith eto am ei fod yn caru Dafydd – roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.
18 Meddai Jonathan, “Mae hi'n Ŵyl y lleuad newydd fory. Bydd dy le di wrth y bwrdd yn wag, a byddan nhw'n dy golli di.
19 Y diwrnod wedyn bydd yn fwy amlwg fyth. Dos di i'r lle roeddet ti o'r blaen, a chuddio wrth Garreg Esel.
20 Gwna i saethu tair saeth at ei hymyl hi, fel petawn i'n saethu at darged.