19 Y diwrnod wedyn bydd yn fwy amlwg fyth. Dos di i'r lle roeddet ti o'r blaen, a chuddio wrth Garreg Esel.
20 Gwna i saethu tair saeth at ei hymyl hi, fel petawn i'n saethu at darged.
21 Wedyn pan fydda i'n anfon gwas i nôl y saethau, os bydda i'n dweud, ‘Edrych, mae'r saethau yr ochr yma i ti. Dos i'w nôl nhw,’ yna gelli ddod yn ôl. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw byddi'n saff, does yna ddim peryg.
22 Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna, rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd.
23 Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.”
24 Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae.Ar Ŵyl y lleuad newydd dyma'r brenin Saul yn eistedd i fwyta.
25 Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag.