2 “Na, byth!” meddai Jonathan. “Wnei di ddim marw. Dydy dad yn gwneud dim byd heb adael i mi wybod. Pam fyddai e'n cuddio'r peth oddi wrtho i? Dydy hyn ddim yn wir.”
3 Ond roedd Dafydd yn taeru. “Mae dy dad yn gwybod yn iawn gymaint o ffrindiau ydyn ni. Mae'n rhaid ei fod e'n meddwl, ‘Alla i ddim dweud wrth Jonathan, neu bydd e wedi ypsetio.’ Does dim amheuaeth am y peth, dw i o fewn dim i farw.”
4 Felly dyma Jonathan yn dweud wrtho, “Dywed be alla i wneud i ti.”
5 Atebodd Dafydd, “Mae'n Ŵyl y lleuad newydd fory, ac mae disgwyl i mi fod yn bwyta gyda'r brenin. Ond rho di ganiatâd i mi fynd i ffwrdd i guddio yn y wlad am ddeuddydd.
6 Os bydd dy dad yn fy ngholli i, dywed wrtho, ‘Roedd Dafydd wedi pledio'n daer arna i i roi caniatâd iddo fynd adre i Fethlehem, am ei bod yn ddiwrnod aberth blynyddol y clan.’
7 Os bydd e'n dweud, ‘Popeth yn iawn,’ yna dw i, dy was di, yn saff. Ond os bydd e'n colli ei dymer byddi'n gwybod ei fod e am wneud drwg i mi.
8 Aros yn driw i mi, achos rwyt ti wedi ymrwymo i mi o flaen yr ARGLWYDD. Ond os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, lladd fi dy hun. Waeth i ti hynny na mynd â fi at dy dad!”