22 Ond os bydda i'n dweud wrth y bachgen, ‘Edrych, mae'r saethau yn bellach draw,’ yna, rhaid i ti ddianc. Yr ARGLWYDD fydd wedi dy anfon di i ffwrdd.
23 Mae'r ARGLWYDD yn dyst i bopeth dŷn ni wedi ei addo i'n gilydd.”
24 Felly dyma Dafydd yn mynd i guddio yn y cae.Ar Ŵyl y lleuad newydd dyma'r brenin Saul yn eistedd i fwyta.
25 Eisteddodd yn ei le arferol, wrth y wal, gyda Jonathan gyferbyn ag e, ac Abner wrth ei ymyl. Ond roedd lle Dafydd yn wag.
26 Ddwedodd Saul ddim byd y diwrnod hwnnw. Roedd e'n meddwl falle fod rhywbeth wedi digwydd fel bod Dafydd ddim yn lân yn seremonïol.
27 Ond y diwrnod wedyn (sef ail ddiwrnod Gŵyl y lleuad newydd) roedd sedd Dafydd yn dal yn wag. A dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Pam nad ydy mab Jesse wedi dod i fwyta ddoe na heddiw?”
28 Atebodd Jonathan, “Roedd Dafydd yn crefu arna i adael iddo fynd i Fethlehem.