32 Dyma Jonathan yn ateb ei dad, “Pam wyt ti eisiau ei ladd e? Be mae wedi ei wneud o'i le?”
33 Yna dyma Saul yn taflu ei waywffon at Jonathan gan fwriadu ei daro. Felly roedd yn gwybod yn iawn bellach fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
34 Cododd Jonathan, a gadael y bwrdd. Roedd wedi gwylltio'n lân. Wnaeth e fwyta dim byd o gwbl y diwrnod hwnnw. Roedd wedi ypsetio'n lân am agwedd ei dad at Dafydd.
35 Y bore wedyn dyma Jonathan yn mynd i'r cae i gyfarfod Dafydd. Aeth â bachgen ifanc gydag e.
36 Dwedodd wrth y bachgen, “Rheda i nôl y saethau wrth i mi eu saethu.” Tra roedd y bachgen yn rhedeg dyma fe'n saethu un y tu draw iddo.
37 Pan gyrhaeddodd y bachgen lle roedd y saeth wedi disgyn, dyma Jonathan yn gweiddi ar ei ôl, “Hei, ydy'r saeth ddim yn bellach draw?”
38 A dyma Jonathan yn gweiddi arno eto, “Brysia! Dos yn dy flaen! Paid loetran!” A dyma'r bachgen yn casglu'r saeth a mynd yn ôl at ei feistr.