6 Os bydd dy dad yn fy ngholli i, dywed wrtho, ‘Roedd Dafydd wedi pledio'n daer arna i i roi caniatâd iddo fynd adre i Fethlehem, am ei bod yn ddiwrnod aberth blynyddol y clan.’
7 Os bydd e'n dweud, ‘Popeth yn iawn,’ yna dw i, dy was di, yn saff. Ond os bydd e'n colli ei dymer byddi'n gwybod ei fod e am wneud drwg i mi.
8 Aros yn driw i mi, achos rwyt ti wedi ymrwymo i mi o flaen yr ARGLWYDD. Ond os ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le, lladd fi dy hun. Waeth i ti hynny na mynd â fi at dy dad!”
9 Atebodd Jonathan, “Paid siarad fel yna! Petawn i'n gwybod fod dad yn bwriadu gwneud niwed i ti, byddwn i'n siŵr o ddweud wrthot ti.”
10 Yna dyma Dafydd yn gofyn i Jonathan, “Pwy sy'n mynd i ddweud wrtho i os bydd dy dad wedi colli ei dymer hefo ti?”
11 “Tyrd, gad i ni fynd allan i'r caeau,” meddai Jonathan wrtho.Pan oedd y ddau ohonyn nhw allan yn y cae,
12 dyma Jonathan yn dweud wrth Dafydd, “Dw i'n addo o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel: erbyn yr adeg yma'r diwrnod ar ôl fory bydda i wedi darganfod beth ydy agwedd dad atat ti. Os ydy ei agwedd e atat ti'n iach, bydda i'n anfon rhywun i adael i ti wybod.