1 Dyma Dafydd yn mynd i Nob ble roedd Achimelech yn offeiriad. Roedd Achimelech yn nerfus iawn pan aeth allan at Dafydd, a gofynnodd iddo, “Pam wyt ti ar dy ben dy hun, a neb gyda ti?”
2 A dyma Dafydd yn ateb, “Y brenin sydd wedi gofyn i mi wneud rhywbeth. Mae wedi dweud fod neb i gael gwybod pam na ble dw i'n mynd. Dw i wedi trefnu i'r milwyr fy nghyfarfod i mewn lle arbennig.
3 Nawr, beth alli di ei roi i mi? Rho bum torth i mi, neu faint bynnag sydd gen ti.”
4 Ond dyma'r offeiriad yn ateb, “Does gen i ddim bara cyffredin o gwbl, dim ond bara sydd wedi ei gysegru i Dduw. Cei hwnnw gen i os ydy'r milwyr ddim wedi cysgu gyda merched neithiwr.”
5 “Wrth gwrs! Dŷn ni ddim wedi bod yn agos at ferched,” meddai Dafydd. “Dydy'r dynion ddim yn cael mynd at ferched pan maen nhw ar gyrch cyffredin, felly'n sicr ddim heddiw, pan maen nhw wedi cysegru eu hunain a'u harfau.”
6 Felly dyma'r offeiriad yn rhoi'r bara cysegredig iddo. Doedd ganddo ddim bara arall i'w gynnig. Dyma'r bara oedd wedi cael ei gymryd oddi ar y bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD, i fara ffres gael ei osod yn ei le pan oedd hi'n amser gwneud hynny.