10 Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma.
11 Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.”A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.”
12 A dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.”
13 Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre.
14 Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano trwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo ei ddal.
15 Pan oedd Dafydd yn Horesh yn anialwch Siff, roedd ganddo ofn am fod Saul wedi dod yno i geisio ei ladd e.
16 Dyma Jonathan, mab Saul, yn mynd draw i Horesh at Dafydd i'w annog i drystio Duw.