18 Ar ôl i'r ddau ymrwymo o flaen yr ARGLWYDD i fod yn ffyddlon i'w gilydd, dyma Dafydd yn aros yn Horesh ac aeth Jonathan adre.
19 Aeth rhai o bobl Siff at Saul i Gibea a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Dafydd yn cuddio wrth ein hymyl ni? Mae yn y cuddfannau wrth Horesh, ar Fryn Hachila i'r de o Jeshimon.
20 Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e yn dy afael di.”
21 “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!” meddai Saul.
22 “Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a pwy sydd wedi ei weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys.
23 Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i yn dod o hyd iddo ble bynnag mae e yng nghanol pobl Jwda i gyd.”
24 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jeshimon.