20 Tyrd i lawr pryd bynnag wyt ti eisiau, O frenin. Awn ni'n gyfrifol am ei roi e yn dy afael di.”
21 “Dych chi wedi bod yn garedig iawn ata i. Bendith yr ARGLWYDD arnoch chi!” meddai Saul.
22 “Ewch i baratoi. Gwnewch yn siŵr ble mae e, a pwy sydd wedi ei weld e yno. Maen nhw'n dweud i mi ei fod yn un cyfrwys.
23 Ffeindiwch allan lle yn union mae e'n cuddio. Pan fyddwch chi'n berffaith siŵr, dewch yn ôl ata i, a bydda i'n dod gyda chi. Bydda i yn dod o hyd iddo ble bynnag mae e yng nghanol pobl Jwda i gyd.”
24 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Siff, o flaen Saul. Roedd Dafydd a'i ddynion yn anialwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jeshimon.
25 A dyma Saul a'i ddynion yn mynd i chwilio amdano. Ond dyma Dafydd yn cael gwybod, ac aeth i lawr i le o'r enw Y Graig, ac aros yno yn anialwch Maon.
26 Clywodd Saul am hyn ac aeth ar ôl Dafydd i anialwch Maon.Roedd Saul un ochr i'r mynydd pan oedd Dafydd a'i ddynion yr ochr arall. Roedd Dafydd yn brysio i geisio osgoi Saul, ond roedd Saul a'i filwyr ar fin amgylchynu Dafydd a'i ddynion a'i dal nhw.