8 Felly dyma Saul yn galw ei fyddin gyfan at ei gilydd, i fynd i Ceila i warchae ar Dafydd a'i ddynion.
9 Pan glywodd Dafydd fod Saul yn cynllunio i ymosod arno, dyma fe'n galw ar Abiathar yr offeiriad, “Tyrd â'r effod yma.”
10 Yna dyma fe'n gweddïo: “O ARGLWYDD, Duw Israel, dw i wedi clywed fod Saul yn bwriadu dod yma i Ceila i ddinistrio'r dre am fy mod i yma.
11 Fydd awdurdodau'r dre yn fy rhoi yn ei ddwylo? Ydy Saul wir yn dod i lawr, fel dw i wedi clywed? O ARGLWYDD, Duw Israel, plîs ateb dy was.”A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ydy, mae e yn dod.”
12 A dyma Dafydd yn gofyn, “Fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm dynion i Saul?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Byddan.”
13 Felly dyma Dafydd a'i ddynion (tua 600 ohonyn nhw i gyd) yn gadael Ceila ar unwaith. Roedden nhw'n symud o le i le. Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, dyma fe'n rhoi'r gorau i'w fwriad i ymosod ar y dre.
14 Bu Dafydd yn cuddio mewn lleoedd saff yn yr anialwch, ac yn y bryniau o gwmpas Siff. Roedd Saul yn chwilio amdano trwy'r amser. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo ei ddal.