1 Roedd Samuel wedi marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartre yn Rama.Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon.
2 Roedd yna ddyn cyfoethog iawn yn byw yn Maon, yn cadw tir wrth ymyl Carmel. Roedd ganddo dair mil o ddefaid a mil o eifr. Roedd e yn Carmel yn cneifio ei ddefaid.
3 Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb.
4 Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel.
5 Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi.
6 Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda!