11 Pam ddylwn i roi fy mara, a'm dŵr a'm cig, sydd wedi ei baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?”
12 Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd,
13 dyma fe'n rhoi gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, dyma tua pedwar cant ohonyn nhw'n mynd gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer.
14 Yn y cyfamser roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw.
15 Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad.
16 Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd, yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno.
17 Rhaid i ti feddwl am rywbeth, neu trychineb sy'n aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho fe!”