18 Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum sachaid o rawn wedi ei grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys.
19 Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi o'm blaen i. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim wrth ei gŵr Nabal.
20 Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall.
21 Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi.
22 Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!”
23 Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen.
24 A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro.