22 Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion e yn dal yn fyw erbyn y bore!”
23 Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen.
24 A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro.
25 Paid cymryd sylw o beth mae'r dyn annifyr yna, Nabal, yn ei ddweud. Ffŵl ydy ystyr ei enw, ac ffŵl ydy e. Wnes i, dy forwyn, ddim gweld y gweision wnest ti eu hanfon.
26 A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, mae'r ARGLWYDD yn dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal.
27 Dw i wedi dod â rhodd i ti, syr, i ti ei roi i'r dynion ifanc sy'n dy ganlyn.
28 Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le!