3 Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb.
4 Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel.
5 Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi.
6 Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda!
7 Ro'n i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim pan oedden nhw yno.
8 Gofyn i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’”
9 Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl