32 Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i!
33 Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun.
34 Yn wir i ti, oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.”
35 Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau roedd hi wedi dod â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.”
36 Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore.
37 Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi ei barlysu.
38 Rhyw ddeg diwrnod wedyn dyma Duw ei daro, a buodd farw.