39 Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosta i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma fe'n anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e.
40 Dyma weision Dafydd yn mynd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.”
41 Cododd Abigail plygu yn isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.”
42 Yna dyma hi'n brysio mynd ar gefn ei hasyn, ac aeth â pum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo.
43 Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo.
44 (Roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, oedd wedi bod yn wraig i Dafydd, i Paltiel fab Laish o dref Galîm.)