1 Dyma bobl Siff yn mynd i Gibea i weld Saul eto, a dweud wrtho fod Dafydd yn cuddio ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon.
2 Felly, dyma Saul yn mynd i lawr i anialwch Siff, gyda thair mil o filwyr gorau Israel, i chwilio am Dafydd.
3 Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon, ond roedd Dafydd allan yn yr anialwch. Pan glywodd Dafydd fod Saul wedi dod ar ei ôl,
4 dyma fe'n anfon ysbiwyr i wneud yn berffaith siŵr fod Saul yno.
5 Yna dyma Dafydd yn mynd draw i'r lle roedd Saul a'i filwyr yn gwersylla. Gwelodd ble roedd Saul ac Abner fab Ner (capten ei fyddin) yn cysgu. Roedd Saul yn y canol, a'i filwyr wedi gwersylla o'i gwmpas.
6 Gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, “Pwy sydd am ddod i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.”
7 Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas.