7 Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas.
8 “Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd fydd ei angen.”
9 Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Na, paid â'i ladd! Alli di ddim gwneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin ac aros yn ddieuog!
10 Yr ARGLWYDD ei hun fydd yn ei daro. Naill ai bydd ei amser yn dod a bydd e'n marw, neu bydd e'n mynd i ryfel ac yn cael ei ladd.
11 Duw am helpo rhag i mi wneud niwed i'r un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin! Tyrd, cymer y waywffon sydd wrth ei ben, a'i botel ddŵr, a gad i ni fynd o ma.”
12 Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm.
13 Aeth Dafydd yn ôl i'r ochr draw a sefyll ar gopa'r mynydd, yn ddigon pell oddi wrth wersyll Saul.