1 Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”
2 Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achis, mab Maoch.
3 Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achis yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
4 Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano.
5 Dyma Dafydd yn gofyn i Achis, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.”
6 Felly dyma Achis yn rhoi tref Siclag i Dafydd y diwrnod hwnnw (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)