6 Felly dyma Achis yn rhoi tref Siclag i Dafydd y diwrnod hwnnw (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)
7 Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a pedwar mis.
8 Byddai Dafydd yn mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Girsiaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.)
9 Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achis.
10 Os byddai Achis yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.”
11 Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth oedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia.
12 Roedd Achis yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”