1 Tua'r adeg yna, dyma'r Philistiaid yn casglu eu byddinoedd at ei gilydd i fynd allan i ryfela yn erbyn Israel. A dyma Achis yn dweud wrth Dafydd, “Dw i eisiau i ti ddeall fy mod i'n disgwyl i ti a dy ddynion ddod gyda mi.”
2 Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achis yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.”
3 Roedd Samuel wedi marw, ac roedd Israel gyfan wedi galaru ar ei ôl a'i gladdu heb fod yn bell o'i gartre yn Rama. Roedd Saul wedi gyrru'r bobl oedd yn mynd ar ôl ysbrydion a'r rhai oedd yn siarad â'r meirw allan o'r wlad.
4 Dyma'r Philistiaid yn dod at ei gilydd ac yn codi gwersyll yn Shwnem. Felly dyma Saul yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilboa.