14 “Sut un ydy e?” meddai Saul. A dyma hi'n ateb, “Hen ŵr ydy e. Mae'n gwisgo mantell amdano.” Roedd Saul yn gwybod mai Samuel oedd e, a dyma fe'n mynd ar ei liniau a plygu â'i wyneb ar lawr.
15 Dyma Samuel yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti wedi tarfu arna i, a'm galw i fyny?” A dyma Saul yn ateb, “Dw i mewn helynt. Mae'r Philistiaid wedi dod i ryfela yn fy erbyn i, ac mae Duw wedi troi cefn arna i. Dydy e ddim yn fy ateb i drwy'r proffwydi na trwy freuddwydion. Dyna pam dw i wedi dy alw di. Dw i eisiau i ti ddweud wrtho i be i'w wneud.”
16 Dyma Samuel yn ei ateb, “Os ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnat ti a throi'n elyn i ti, pam ti'n troi ata i?
17 Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yn union beth wnes i broffwydo! Mae e wedi rhwygo'r deyrnas oddi arnat ti a'i rhoi hi i Dafydd.
18 Wnest ti ddim gwrando ar yr ARGLWYDD, na gwneud beth oedd e eisiau i ti ei wneud i'r Amaleciaid. Dyna pam mae e'n gwneud hyn i ti nawr.
19 Bydd e'n dy roi di ac Israel yn nwylo'r Philistiaid. Erbyn fory byddi di a dy feibion yn yr un lle â fi. Bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi byddin Israel yn nwylo'r Philistiaid.”
20 Pan glywodd Saul beth ddwedodd Samuel dyma fe'n syrthio ar ei hyd ar lawr. Roedd wedi dychryn trwyddo, a doedd ganddo ddim nerth o gwbl am ei fod heb fwyta drwy'r dydd na'r nos.