2 Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achis yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.”
3 Roedd Samuel wedi marw, ac roedd Israel gyfan wedi galaru ar ei ôl a'i gladdu heb fod yn bell o'i gartre yn Rama. Roedd Saul wedi gyrru'r bobl oedd yn mynd ar ôl ysbrydion a'r rhai oedd yn siarad â'r meirw allan o'r wlad.
4 Dyma'r Philistiaid yn dod at ei gilydd ac yn codi gwersyll yn Shwnem. Felly dyma Saul yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilboa.
5 Ond pan welodd Saul wersyll y Philistiaid roedd wedi dychryn am ei fywyd.
6 Felly dyma fe'n gofyn am help gan yr ARGLWYDD, ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn ei ateb – drwy freuddwyd, drwy'r Wrim (oedd gan offeiriad), na drwy broffwydi.
7 Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Chwiliwch am wraig sy'n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma'i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy'n dewino yn En-dor.”
8 Dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.”