7 Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Chwiliwch am wraig sy'n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma'i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy'n dewino yn En-dor.”
8 Dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.”
9 Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi ei wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?”
10 Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.”
11 Felly dyma'r wraig yn gofyn iddo, “Pwy wyt ti eisiau i mi ei alw i ti?” A dyma fe'n ateb, “Galw Samuel i fyny ata i.”
12 Pan welodd hi Samuel, dyma'r ddynes yn rhoi sgrech. “Pam wnest ti fy nhwyllo i?” meddai, “Saul wyt ti!”
13 Dyma'r brenin yn dweud wrthi, “Paid bod ag ofn. Dywed be rwyt ti'n weld.” Ac meddai'r wraig wrth Saul, “Dw i'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”