10 A dyma'r ARGLWYDD yn dod ato eto, a galw arno fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!”. A dyma Samuel yn ateb, “Siarada, mae dy was yn gwrando.”
11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Samuel, “Dw i yn mynd i wneud rhywbeth yn Israel fydd yn sioc ofnadwy i bawb fydd yn clywed am y peth.
12 Mae popeth dw i wedi sôn wrth Eli amdano – popeth ddywedais i fyddai'n digwydd i'w deulu – yn mynd i ddod yn wir!
13 Dw i wedi dweud wrtho fy mod yn mynd i gosbi ei deulu am byth. Roedd e'n gwybod fod ei feibion yn melltithio Duw, ac eto wnaeth e ddim dweud y drefn wrthyn nhw.
14 A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”
15 Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.
16 Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.”A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”