14 A dyna pam dw i wedi addo ar lw am deulu Eli, na fydd unrhyw aberth nac offrwm byth yn gallu gwneud iawn am eu pechod.”
15 Arhosodd Samuel yn ei wely tan y bore. Yna dyma fe'n codi i agor drysau cysegr yr ARGLWYDD. Roedd arno ofn dweud wrth Eli am y weledigaeth.
16 Ond dyma Eli'n ei alw, “Samuel, machgen i.”A dyma fe'n ateb, “Dyma fi.”
17 A dyma Eli'n gofyn iddo, “Beth ddwedodd Duw wrthot ti? Paid cuddio dim oddi wrtho i. Boed i Dduw dy gosbi di os byddi di'n cuddio unrhyw beth ddwedodd e oddi wrtho i!”
18 Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
19 Wrth i Samuel dyfu i fyny, roedd Duw gydag e. Daeth pob neges roddodd e gan Dduw yn wir.
20 Roedd Israel gyfan, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, yn gwybod fod Duw wedi dewis Samuel yn broffwyd.