3 Doedd lamp Duw ddim wedi diffodd, ac roedd Samuel hefyd yn cysgu yn y deml lle roedd Arch Duw.
4 Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel, a dyma Samuel yn ateb, “Dyma fi,”
5 yna rhedeg at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti alw.”Ond dyma Eli'n ateb, “Naddo, wnes i ddim dy alw di, dos yn ôl i gysgu.” Felly aeth Samuel yn ôl i orwedd.
6 Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.”“Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.”
7 (Roedd hyn i gyd cyn i Samuel ddod i nabod yr ARGLWYDD. Doedd e erioed wedi cael neges gan Dduw o'r blaen.)
8 Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.”Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9 A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’”Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr.