14 Roedden ni newydd ymosod ar Negef y Cerethiaid, ar ardal Jwda a Negef Caleb. Ac roedden ni wedi rhoi Siclag ar dân.”
15 Dyma Dafydd yn gofyn iddo, “Wnei di'n harwain ni at yr ymosodwyr yma?” A dyma fe'n ateb, “Addo i mi o flaen dy Dduw y gwnei di ddim fy lladd i, na'm rhoi i yn ôl i'm meistr, a gwna i dy arwain di atyn nhw.”
16 Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bob man. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda.
17 Yna cyn i'r wawr dorri dyma Dafydd a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. Buon nhw'n ymladd drwy'r dydd nes oedd hi'n dechrau nosi. Yr unig rai wnaeth lwyddo i ddianc oedd rhyw bedwar cant o ddynion ifanc wnaeth ffoi ar gefn camelod.
18 Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig.
19 Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd yn ôl bawb a phopeth oedd wedi ei ddwyn.
20 Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill yr anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”