18 Llwyddodd Dafydd i achub popeth oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, gan gynnwys ei ddwy wraig.
19 Doedd neb ar goll, o'r ifancaf i'r hynaf, gan gynnwys y plant. Cafodd yn ôl bawb a phopeth oedd wedi ei ddwyn.
20 Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill yr anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
21 Yna aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan ddaeth atyn nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch.
22 Ond roedd yna rai dynion drwg am godi stŵr ymhlith y rhai aeth gyda Dafydd, a dyma nhw'n dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Caiff pob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!”
23 Ond meddai Dafydd, “Na, peidiwch gwneud hynny ar ôl popeth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i ni! Fe wnaeth ofalu amdanon ni, a rhoi'r dynion wnaeth ymosod arnon ni yn ei gafael ni.
24 Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Yr un fydd siâr y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Dylen nhw rannu'n deg gyda'i gilydd.”