24 Does neb yn mynd i wrando arnoch chi yn siarad fel yna! Yr un fydd siâr y rhai aeth i ymladd a'r rhai arhosodd gyda'r offer. Dylen nhw rannu'n deg gyda'i gilydd.”
25 A dyna'r rheol a'r drefn yn Israel hyd heddiw.
26 Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i arweinwyr Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai.
27 Anfonodd beth i'r lleoedd canlynol: Bethel, Ramoth yn y Negef, a Iattir;
28 Aroer, Siffmoth, Eshtemoa,
29 a Rachal; trefi'r Ierachmeëliaid a'r Ceneaid;
30 Horma, Bor-ashan, Athach,