3 Roedd y dre wedi ei llosgi pan gyrhaeddodd Dafydd yno. Roedd eu gwragedd a'u plant wedi eu cymryd yn gaethion.
4 A dyma Dafydd a'i ddynion yn dechrau crïo'n uchel nes eu bod nhw'n rhy wan i grïo ddim mwy.
5 Roedd gwragedd Dafydd wedi eu cymryd yn gaeth hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail, gweddw Nabal o Carmel.
6 Roedd Dafydd mewn trwbwl. Roedd y dynion yn bygwth ei ladd drwy daflu cerrig ato, am eu bod nhw i gyd mor chwerw am beth oedd wedi digwydd i'w plant. Ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.
7 Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriad, Abiathar fab Achimelech, a dweud wrtho, “Tyrd â'r effod i mi.” Daeth Abiathar a'r effod iddo.
8 A dyma Dafydd yn gofyn i'r ARGLWYDD, “Os af i ar ôl y rhai wnaeth ymosod, wna i eu dal nhw?” A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Dos ar eu holau. Byddi'n eu dal nhw ac yn llwyddo i achub y rhai sydd wedi cael eu cipio!”
9 Felly i ffwrdd a Dafydd, a'i chwe chant o ddynion gydag e. Dyma nhw'n cyrraedd Wadi Besor, a dyma rai o'r dynion yn aros yno.