7 Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
8 Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.
9 Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl.
10 Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan.
11 Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,
12 dyma'r milwyr i gyd yn mynd allan a teithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno.
13 Wedyn dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.