1 A byddai Samuel yn rhannu'r neges gydag Israel gyfan.Dyma Israel yn mynd i ryfel yn erbyn y Philistiaid. Roedden nhw'n gwersylla yn Ebeneser, tra roedd y Philistiaid yn gwersylla yn Affec.
2 Dyma'r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn rhengoedd. Dechreuodd yr ymladd, a dyma Israel yn colli. Cafodd tua pedair mil o'u dynion eu lladd.
3 Pan ddaeth gweddill y fyddin yn ôl i'r gwersyll, dyma arweinwyr Israel yn dechrau holi, “Pam wnaeth yr ARGLWYDD adael i'r Philistiaid ein curo ni? Gadewch i ni ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yma aton ni o Seilo. Os bydd hi'n mynd gyda ni, bydd yn ein hachub ni o afael y gelyn!”
4 Felly dyma nhw'n anfon i Seilo i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n eistedd uwch ben y ceriwbiaid. Roedd meibion Eli, Hoffni a Phineas, yno gyda'r Arch.
5 Pan gyrhaeddodd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD y gwersyll, dyma pawb yn bloeddio gweiddi mor uchel roedd fel petai'r ddaear yn crynu!
6 Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll.
7 Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen.