6 Pan glywodd y Philistiaid y sŵn, dyma nhw'n holi, “Pam maen nhw'n bloeddio fel yna yng ngwersyll yr Hebreaid?” Yna dyma nhw'n sylweddoli fod Arch yr ARGLWYDD wedi dod i'r gwersyll.
7 Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Mae hi ar ben arnon ni,” medden nhw. “Mae'r duwiau wedi dod i'w gwersyll nhw. Does dim byd fel yma wedi digwydd o'r blaen.
8 Mae hi ar ben arnon ni go iawn. Pwy sy'n mynd i'n hachub ni o afael y duwiau cryfion yma? Dyma'r duwiau wnaeth daro'r Eifftiaid mor ofnadwy yn yr anialwch.
9 Philistiaid, rhaid i chi fod yn ddewr! Byddwch yn ddynion! Neu byddwch chi'n mynd yn gaeth i'r Hebreaid fel buon nhw yn gaeth i chi. Byddwch yn ddynion, ac ymladd!”
10 Felly dyma'r Philistiaid yn ymosod ar Israel. Collodd Israel y frwydr, a dyma'r fyddin i gyd yn dianc am adre. Roedd lladdfa fawr. Cafodd tua tri deg mil o filwyr traed Israel eu lladd.
11 Cafodd Arch Duw ei chipio hefyd, a cafodd Hoffni a Phineas, meibion Eli, eu lladd.
12 Dyma ddyn o lwyth Benjamin yn rhedeg o'r frwydr a chyrraedd Seilo yr un diwrnod. Roedd wedi rhwygo ei ddillad a rhoi pridd ar ei ben.