10 Roedd y Philistiaid ar fin ymosod ar Israel wrth i Samuel gyflwyno'r offrwm. A'r foment honno dyma'r ARGLWYDD yn anfon anferth o storm daranau, wnaeth yrru'r Philistiaid i banig llwyr, a dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel.
11 Aeth dynion Israel allan o Mitspa ar eu holau, a lladd llawer iawn ohonyn nhw yr holl ffordd i'r ochr isaf i Beth-car.
12 Yna dyma Samuel yn gosod carreg i fyny rhwng Mitspa a'r clogwyn. Rhoddodd yr enw Ebeneser iddi (sef "Carreg Help"), a dweud, “Mae'r ARGLWYDD wedi'n helpu ni hyd yma.”
13 Roedd y Philistiaid wedi eu trechu, a wnaethon nhw ddim ymosod ar Israel eto.Tra roedd Samuel yn fyw roedd yr ARGLWYDD yn delio gyda'r Philistiaid.
14 Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi eu cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Roedd heddwch rhwng pobl Israel a'r Amoriaid.
15 Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd.
16 Bob blwyddyn byddai'n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai'n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro