14 Cafodd Israel y trefi roedd y Philistiaid wedi eu cymryd oddi arnyn nhw yn ôl, a'r tir o'u cwmpas nhw, o Ecron yn y gogledd i Gath yn y de. Roedd heddwch rhwng pobl Israel a'r Amoriaid.
15 Buodd Samuel yn arwain Israel am weddill ei fywyd.
16 Bob blwyddyn byddai'n mynd ar gylchdaith o Bethel i Gilgal ac yna i Mitspa. Byddai'n cynnal llys ym mhob tref yn ei thro
17 cyn mynd yn ôl adre i Rama. Dyna lle roedd yn byw, ac o'r fan honno roedd e'n arwain Israel. Roedd wedi codi allor i'r ARGLWYDD yno hefyd.