1 Pan oedd Samuel wedi mynd yn hen, rhoddodd y gwaith o arwain Israel i'w feibion.
2 Joel oedd enw'r hynaf ac Abeia oedd y llall. Roedd eu llys nhw yn Beersheba.
3 Ond doedden nhw ddim yr un fath â'u tad. Roedden nhw'n twyllo er mwyn cael arian, ac yn derbyn breib am roi dyfarniad annheg.
4 Felly dyma arweinwyr Israel yn cyfarfod a mynd i weld Samuel yn Rama.
5 Medden nhw wrtho, “Ti'n mynd yn hen a dydy dy feibion di ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i'n harwain, yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd.”
6 Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD.
7 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi ei wrthod fel eu brenin.