16 Bydd yn cymryd eich gweision a'ch morynion, eich gwartheg gorau a'ch asynnod i weithio iddo fe'i hun.
17 A bydd yn cymryd un o bob deg o'ch defaid a'ch geifr. Byddwch chi'n gaethweision iddo!
18 Bryd hynny byddwch chi'n cwyno am y brenin wnaethoch chi ei ddewis, a fydd Duw ddim yn gwrando arnoch chi.”
19 Ond doedd y bobl ddim am wrando ar Samuel. “Na,” medden nhw, “dŷn ni eisiau brenin.
20 Dŷn ni eisiau bod yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd. Dŷn ni eisiau brenin i lywodraethu arnon ni, a'n harwain ni i ryfel.”
21 Ar ôl gwrando ar bopeth ddwedodd y bobl, dyma Samuel yn mynd i ddweud am y cwbl wrth yr ARGLWYDD.
22 “Gwna beth maen nhw'n ei ofyn,” meddai'r ARGLWYDD wrth Samuel, “a rho frenin iddyn nhw.”Yna dyma Samuel yn dweud wrth ddynion Israel, “Ewch adre i gyd.”