5 Medden nhw wrtho, “Ti'n mynd yn hen a dydy dy feibion di ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i'n harwain, yr un fath â'r gwledydd eraill i gyd.”
6 Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD.
7 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Gwna bopeth mae'r bobl yn ei ofyn. Dim ti maen nhw'n ei wrthod; fi ydy'r un maen nhw wedi ei wrthod fel eu brenin.
8 Mae'r un hen stori eto! Maen nhw wedi gwneud hyn ers i mi ddod â nhw allan o wlad yr Aifft – fy ngwrthod i ac addoli duwiau eraill. A nawr rwyt ti'n cael yr un driniaeth.
9 Felly gwna beth maen nhw'n ofyn. Ond rhybuddia nhw'n glir, iddyn nhw ddeall y canlyniadau, a beth fydd y brenin yn ei wneud.”
10 Felly dyma Samuel yn dweud wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho.
11 Dwedodd, “Dyma sut fydd y brenin yn eich trin chi: Bydd yn cymryd eich meibion a'u gwneud nhw'n farchogion, i yrru ei gerbydau rhyfel ac i fod yn warchodwyr personol iddo.